Hearing Loss & Demetia

It’s no secret that as we age, our ability to carry out everyday activities may decrease. A contributory factor may be a change in hearing. The impact of hearing loss is often underrated. When hearing loss occurs, some people may withdraw from everyday conversations, leading to the possibility of isolation. Our brains need stimulation from taking to others. Experts show that there can be a link between hearing loss and dementia. Research suggests that by managing hearing loss with hearing aids, the risk of dementia can be reduced.

If you notice any hearing loss, it’s important that you get your ears and hearing checked as early as possible, or if you already have hearing aids then make sure they are working and used regularly.

Our aim is to raise awareness in those who may be experiencing hearing loss and we advise you to contact your GP practice to arrange an appointment with an NHS audiologist for a hearing assessment.

CADR Director, Dr Andrea Tales:

“This co-produced animation is based on research evidence and is designed to raise awareness of the importance of addressing hearing loss allowing people to make positive choices. Raising awareness allows people to more freely talk about the issues and to let people know that its ok to contact their GP and audiologist to talk about.”

Jane Wild, Chair of Wales Audiology Heads of Service Group

“This is an important animation raising awareness of the link between hearing loss and dementia and the value of seeking help and using hearing aids. We are pleased to see this animation being launched.”

Kieran Walshe, Director, Health and Care Research Wales said:

“Without research, we wouldn’t know how strong a link there is between hearing loss and dementia. Research provides crucial opportunities to consider health and wellbeing as a whole and make connections between seemingly disparate issues, leading to deeper understanding and better outcomes.”

CADR (the Centre for Ageing and Dementia Research) has worked collaboratively with the Awen Institute and NHS Wales to create an animation which promotes this public message. The animation can be found here: https://www.cadr.cymru/en/news-info.htm?id=328

Nid yw’n gyfrinach, wrth i ni heneiddio, y gall ein gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol leihau. Gall newid mewn clyw fod yn ffactor cyfrannol. Mae effaith colli clyw yn aml yn cael ei danbrisio. Pan fydd colled clyw yn digwydd, gall rhai pobl dynnu’n ôl o sgyrsiau bob dydd, gan arwain at y posibilrwydd o ynysu. Mae angen ysgogiad ar ein hymennydd er mwyn siarad ag eraill. Mae arbenigwyr yn dangos y gall fod cysylltiad rhwng colli clyw a dementia. Awgryma ymchwil, trwy reoli colled clyw gyda chymhorthion clyw, y gellir lleihau’r risg o ddementia.

Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw golled clyw, mae’n bwysig eich bod chi’n cael prawf clyw a chlustiau cyn gynted â phosibl, neu os oes gennych chi gymhorthion clyw yn barod, sicrhewch eu bod nhw’n gweithio ac yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.

Ein bwriad yw codi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai a allai fod yn profi colled clyw ac rydym yn eich cynghori i gysylltu â’ch practis meddyg teulu i drefnu apwyntiad gydag awdiolegydd y GIG ar gyfer asesiad clyw.

Meddai Cyfarwyddwr CADR, Dr Andrea Tales:

“Mae’r animeiddiad a gynhyrchwyd ar y cyd hwn wedi’i seilio ar dystiolaeth ymchwil ac wedi’i gynllunio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mynd i’r afael â cholled clyw gan alluogi pobl i wneud dewisiadau cadarnhaol. Mae codi ymwybyddiaeth yn galluogi pobl i siarad yn fwy rhydd am y materion ac i hysbysu pobl ei bod yn iawn cysylltu â’u meddyg teulu a’u awdiolegydd i siarad amdanyn nhw.”

Jane Wild, Cadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaeth Awdioleg Cymru

“Mae hwn yn animeiddiad pwysig sy’n codi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia a gwerth ceisio cymorth a defnyddio cymhorthion clyw. Rydym yn falch o weld yr animeiddiad hwn yn cael ei lansio.”

Meddai Kieran Walshe, Cyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Heb ymchwil, ni fyddem yn gwybod pa mor gryf yw’r cysylltiad rhwng colli clyw a dementia. Mae ymchwil yn darparu cyfleoedd hanfodol i ystyried iechyd a llesiant yn gyffredinol a gwneud cysylltiadau rhwng materion sy’n ymddangos yn wahanol, gan arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a gwell canlyniadau.”

Mae CADR (y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia) wedi gweithio ar y cyd â Sefydliad Awen a GIG Cymru i greu animeiddiad sy’n hyrwyddo’r neges gyhoeddus hon. Mae’r animeiddiad hwn i’w weld yma: https://www.cadr.cymru/cy/news-info.htm?id=329